Kirsty Williams, Ysgrfiennydd Addysg Llywodraeth Cymru
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi cydnabod fod canlyniadau profion PISA yng Nghymru yn “siomedig” ond mae’n pwysleisio “y bydd Cymru’n ddigon dewr i gyflawni’r genhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg.”

A hithau wedi bod wrth y llyw fel Ysgrifennydd Addysg ers ychydig dros chwe mis, dywedodd Kirsty Williams, “y peth hawdd fyddai rhwygo’r cynllun a dechrau eto…

“Ond mae gennym ddyletswydd i’n disgyblion, i’n rhieni ac i’r proffesiwn i wneud beth sy’n iawn.

“Mae’r gwaith caled wedi dechrau. Mae gennym gynlluniau mewn lle i ddatblygu gweithlu proffesiynol ardderchog a chwricwlwm newydd ac rydym yn cyflwyno cymwysterau cynhwysfawr a fydd yn cael eu parchu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

‘Hollti barn’

“Efallai bod PISA yn hollti barn, ond dyna yw’r meincnod sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ar gyfer sgiliau,” esboniodd Kirsty Williams.

“Nid yw hi erioed wedi bod yn bwysicach i ddangos i’n hunain ac i’r byd fod ein pobol ifanc yn gallu cystadlu gyda’r gorau… mae cenhedloedd bach, arloesol eraill wedi achub y blaen arnom o ran eu teithiau diwygio. Ond os oes modd i Iwerddon ac Estonia wneud hyn, gallwn ni ei wneud hefyd,” meddai.

PISA

Heddiw, cafodd canlyniadau diweddara’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) eu cyhoeddi sy’n edrych ar systemau addysg 72 o wledydd y byd.

Mae’r canlyniadau’n dangos fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill gwledydd Prydain o ran sgiliau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg, gyda sgôr Cymru’n is na chyfartaledd yr OECD hefyd (Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd).

Y canlyniadau’n llawn a’r ymateb iddynt yma.