Kate George Weaver-Gibbs, gwraig Scott Gibbs Llun: O'i chyfrif Twitter
Mae adroddiadau bod gwraig y cyn-chwaraewr rygbi cenedlaethol Scott Gibbs mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan sgwter yn yr Eidal.

Mae newyddion lleol yn dweud bod Kate George Weaver-Gibbs, 32, wedi bod yn cerdded ar groesfan yn Verona pan gafodd ei tharo ddydd Gwener.

Does dim manylion pellach am y ddamwain ar hyn o bryd.

Mae Kate George Weaver-Gibbs, sy’n hanu o dde Cymru, a’i gwr Scott Gibbs wedi bod yn briod ers 2014.

Mae hi’n flogwraig sy’n arbenigo mewn sgwennu am deithio a harddwch.