Mae corff newydd ar fin cael ei sefydlu i geisio achub amgueddfa yn Llanystumdwy sy’n adrodd hanes bywyd yr unig Gymro Cymraeg i ddod yn Brif Weinidog gwledydd Prydain.

Fel arall, fe allai Amgueddfa Lloyd George ger Cricieth orfod cau ei drysau yn Ebrill 2020, os na fedr ddod o hyd i ffordd o dalu’r costau ac o’i marchnata i weddill y byd.

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Cyngor Gwynedd ei fod am roi’r gorau i dalu grant 0o £27,000 y flwyddyn i wneud yn iawn am golledion ariannol yr amgueddfa; ond fe ddaeth cyhoeddiad yng nghyllideb Llywodraeth Prydain ym mis Mawrth y byddai George Osborne o blaid talu’r costau hynny am dair blynedd, hyd at Ebrill 2020.

Corff newydd

“Mae Cyfeillion Lloyd George (y gymdeithas sy’n rhedeg yr Amgueddfa ac yn croesawu ymwelwyr yno) ar hyn o bryd yn gweithio’n galed iawn i drio sefydlu corff newydd i redeg yr amgueddfa ac i chwilio am bartneriaid i ariannu’r amgueddfa,” meddai Emrys Williams, Cadeirydd y Cyfeillion wrth golwg360.

“Dydi’r sgiliau arbenigol fyddan ni eu hangen yn y corff newydd yma ddim gan y Cyfeillion…. Mi fydd y corff newydd yma ar wahân i’r Cyfeillion, bydd y Cyfeillion fel y maen nhw’n bresennol yn dal i fodoli, ac yn ehangu, dw i’n gobeithio.”

Edrych allan i’r byd

Fel yr unig amgueddfa sydd yn dathlu bywyd Lloyd George, mae ymwelwyr yn dod o bob rhan o’r byd, meddai Emrys Williams – ond mae’n cydnabod fod angen marchnata’r lle yn ehangach.

Gan fod pob un o’r creiriau yn yr amgueddfa wedi’i gyflwyno dan amod na fyddan nhw byth yn gadael pentre’ Llanystumdwy, dydi symud Amgueddfa Lloyd George i fan arall ddim yn bosib.

Daw “pobol o America ac Ewrop” ynghyd â ffigyrau adnabyddus ym myd gwleidyddiaeth i weld yr amgueddfa, meddau Emrys Williams, gan ddweud i Michael Gove, y cyn-Weinidog Addysg yn Llywodraeth David Cameron, wneud “sylwadau canmoladwy iawn” am y lle.

“Dydi’r amgueddfa ddim yn perthyn i Lanystumdwy, ddim yn perthyn i Wynedd, mae’n perthyn i Brydain a thu hwnt,” meddai Emrys Williams, “achos hon ydi’r unig amgueddfa sydd wedi’i adeiladu yn bwrpasol i gyn-Brif Weinidog.

“Y gwir ydi, yn ystod y pum mlynedd diwetha’ yma, lle mae’r cyngor sir wedi bod yn rhedeg yr amgueddfa, doedden nhw’n rhoi dim cyllid i ni i farchnata yr amgueddfa, ac rydan ni wedi bod yn dioddef oherwydd hynny.

“Mae marchnata wedi bod yn sobor o wael, a doedd y Cyfeillion ddim yn gallu cyfrannu hynny o arian oedd ei eisiau i farchnata’r lle yn iawn.”