Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd wedi galw am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn diogelu dyfodol Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy.

Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r hyn gyflawnodd yr unig Gymro Cymraeg i ddod yn Brif Weinidog Prydain, yn golygu ei bod hi’n gyfrifoldeb ar ardaloedd eraill hefyd i gadw’r cof amdano yn fyw.

“Dw i yn meddwl fod cyfraniad Lloyd George a rôl Lloyd George yn fwy o gyfrifoldeb nag i un cyngor sir yn unig,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360, “a hynny, wrth gwrs, pan mae amgueddfeydd ddim yn statudol ac felly’n anodd iawn iddyn nhw.

“Ond mi faswn i’n edrych i awdurdodau tu hwnt i Gyngor Gwynedd wneud hyn, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth gwrs.”

Fe fu dyfodol yr amgueddfa yn y fantol pan gyhoeddodd Cyngor Gwynedd ei fod yn bwriadu tynnu’n ôl y grant blynyddol o £27,000 i’r sefydliad.

Yna, ym mis Mawrth eleni, fe ddaeth cyhoeddiad gan Ganghellor y Trysorlys ar y pryd, George Osborne, y byddai £27,000 ar gael i ddiogelu’r amgueddfa am eleni.

Mae barn Liz Saville Roberts i’w chlywed yn y clip hwn: