Mae bron pob llu heddlu yng Nghymru bellach yn ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol o fewn y maes pêl-droed.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys heddiw eu bod nhw’n ymchwilio i un honiad yr un.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De bod swyddogion yn edrych ar honiad yn ymwneud â “chlwb pêl-droed amatur” ond ni chafwyd manylion pellach gan Heddlu Dyfed Powys.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gyhoeddi’r wythnos diwethaf ei fod hefyd yn ymchwilio i honiadau.
Mae bron i 800 o bobol wedi dweud eu bod wedi cael eu cam-drin, y mwyafrif yn y 70au a’r 80au, ar ôl i ymddiriedolaeth newydd annibynnol gael ei sefydlu er mwyn cefnogi dioddefwyr.
Roedd y person cyntaf i drafod y broblem yn gyhoeddus ac agor llifddorau’r sgandal, Andy Woodward, yn un o’r sefydlwyr.