Enillwyr Fferm Ffactor - Aled Davies, Carys Jones a Jack Davies (Llun: S4C)
Tri myfyriwr amaeth o gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Fferm Ffactor a barodd saith wythnos ar S4C eleni.

Yn wahanol i’r drefn arferol mae’r tri, sydd oll yn ddeunaw oed, yn ennill taith i Dde America.

Mae’r tri, sef Aled Davies, Carys Jones a Jack Davies, yn gyd-aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Llangadog yn Sir Gâr.

“Er ein bod ni i gyd yn ifanc, mae’n profi bod pobol ifanc yn medru mynd amdani gystal â rhai hŷn mewn cystadlaethau fel hyn,” meddai Jack Davies, sy’n gweithio ar ei fferm odro deuluol hefyd.

“Mae hefyd yn dangos bod digon o frwdfrydedd gan bobol ifanc ym maes amaethyddiaeth, a bod dyfodol disglair i’r diwydiant.”

Gwaith nesa’r tri fydd dewis pa ardal o Dde America y maen nhw am ymweld ag ef, gyda’r trefniadau’n cael eu hwyluso gan gwmni Teithiau Tango a’r yswiriant yn cael ei ddarparu gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Yn cystadlu yn eu herbyn yn y rownd derfynol oedd Tîm Moch Môn, ac fe gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar S4C nos Sadwrn, Rhagfyr 3.