Y daith gerdded (Llun: Cymorth Cristnogol)
Fe ddaeth degau o bobol at ei gilydd i gerdded y cymal cyntaf o daith gerdded 140 milltir i godi arian ar gyfer ffoaduriaid ddydd Sul.

Roedd y cymal cyntaf yn ymestyn o Fethlehem, Sir Gâr i Rydedwin ger Talyllychau a bydd y siwrne yn parhau ddydd Llun, 5 Rhagfyr gyda chymal o Rydedwin i Lanbedr Pont Steffan.

Dros ddeuddeg diwrnod, mae’r ymgyrchwyr yn gobeithio cyrraedd yr holl ffordd i bentref bach yr Aifft yn Sir Ddinbych ac mae pennaeth y sefydliad, Huw Thomas, yn mynd i gerdded pob cam:

“Diben y daith hon yw tynnu sylw at ddioddefaint mae gymaint wedi ei ddioddef wrth orfod ffoi o’u cartrefi oherwydd trais,” meddai.

“Mae’r ymateb gan gymunedau yng Nghymru wedi bod yn anhygoel, nid dim ond o ran y rhai sydd wedi cofrestru i gerdded, ond hefyd yn y cynigion o groeso ar y siwrnai, a charedigrwydd wrth noddi.

“Mae stori’r Nadolig wedi ei seilio ar gariad, ac mae’n glir fod y cariad hwnnw yn bresennol yng nghymunedau Cymru y Nadolig hwn.”

Bydd yr uchafbwyntiau yn cynnwys croesi’r afon Ddyfi mewn cwch ar ddydd Iau, 8 Rhagfyr – gan ddwyn i gof y siwrne beryglus mae cynifer wedi ei gwneud ar draws Mor y Canoldir – gyda therfyn y daith yn cael ei nodi gyda gwasanaeth arbennig yng Nghadeirlan Llanelwy nos Iau, 15 Rhagfyr.