Fe fydd Heddlu Dyfed Powys a’r gwasanaethau achub yn ail-ddechrau chwilio am berson a welwyd yn yr afon Teifi brynhawn dydd Sul.

Bydd gwylwyr y glannau lleol a thimau achub o Gaernarfon yn parhau â’r chwilio am 9yb ddydd Llun.

Cafodd swyddogion arbenigol eu galw i bont Aberteifi tua 1:15 prynhawn dydd Sul, 4 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau bod person wedi’i weld yn yr afon.

Bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r chwilio am 4:30 prynhawn ddoe wrth iddi dywyllu.