Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru yn cyhuddo llywodraeth Prydain o anwybyddu’r gyfraith a’r cyfansoddiad wrth geisio cychwyn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd heb ddeddf Seneddol.

Fe fydd Mick Antoniw yn dadlau yn erbyn llywodraeth Prydain yn y Goruchaf Lys yr wythnos yma wrth iddi apelio am yr hawl i weithredu Erthygl 50 i gychwyn proses Brexit.

Fe fydd yn pwyso ar y Goruchaf Lys i gadarnhau penderfyniad yr Uchel Lys a gwrthod yr apêl.

Fe fydd hefyd yn dadlau y bydd yn rhaid i lywodraeth Prydain gael cydsyniad y Cynulliad i unrhyw newid yn statws cyfansoddiadol Cymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar yr un pryd, mae’n mynnu na fydd Llywodraeth Cymru’n ceisio rhwystro llywodraeth Prydain rhag gweithredu Erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Pleidleisio i adael’

“Mae pobl y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd,” medda.

“Rwy’n parchu’r penderfyniad hwnnw ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i ganlyniad y refferendwm. Er y bydd Brexit yn digwydd, ni chaiff Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau’r broses drwy ddiystyru cyfansoddiad Prydain. Mae’n rhaid iddyn nhw weithredu’n unol â’r gyfraith.

“Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at newid sylweddol yn setliad datganoli Cymru. Dim ond Senedd y Deyrnas Unedig gaiff wneud y newidiadau hynny, a dylai hynny ddigwydd gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol.

“Yn y Goruchaf Lys, bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r ddadl bod rhaid i’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd gael ei chynnal yn unol â’r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys parchu a dilyn trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.”

Mae’r achos yn y Goruchaf Lys yn cychwyn yfory ac mae disgwyl iddo barhau am bedwar diwrnod.