Mae ymgyrch newydd ar droed i geisio codi proffil Cymru yn Llundain a’r sefydliadau Cymreig yn y ddinas a thu hwnt.

Bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn lansio ymgyrch ‘Wythnos Cymru’ yn Llundain ddydd Llun.

Fe fydd ‘Wythnos Cymru’ yn digwydd yn ystod wythnos Gŵyl Dewi yn Llundain y flwyddyn nesa’.

Y bwriad yw gweld “Llundain yn dathlu Cymru” gyda Dan Langford a Mike Jordan, dau ddyn busnes o Gymru, yn gyrru’r drol.

Mae disgwyl cyfres o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a fydd yn arddangos a chefnogi gweithgareddau cymunedau Cymreig Llundain a hyrwyddo cynnyrch gorau Cymru yn y ddinas fawr.

“Sicrhau budd Gŵyl Ddewi”

“Dydd Gŵyl Dewi yw’r amser perffaith i ddathlu a thynnu sylw at weithgareddau’r gymuned Gymreig yn Llundain,” meddai Alun Cairns.

“Am y tro cyntaf gallwn sicrhau’r budd mwyaf o hynny drwy ddod â’r cyfan at ei gilydd dan un faner i helpu i ysgogi popeth sy’n wych ac yn fendigedig am y Gymru fodern.”

Dywedodd Dan Langford, Cyfarwyddwr Marchnata Acorn Recruitment, sy’n hyrwyddo busnesau Cymreig yn Llundain: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw sefydliad Cymreig sydd â diddordeb mewn datblygu cynulleidfa newydd neu gael mwy o gynulleidfa yn Llundain…

“Gall unrhyw sefydliad sy’n dymuno hyrwyddo ei ddigwyddiadau wneud hynny yn rhad ac am ddim.

“Rôl Wythnos Cymru yn Llundain yn syml iawn yw datblygu senario lle mae hyrwyddo popeth am Gymru gyda’i gilydd yn Llundain ar un adeg benodol yn fwy effeithiol na llawer o wahanol ddigwyddiadau sy’n hyrwyddo gweithgareddau, digwyddiadau neu ymarferion marchnata unigol.”

Mae’r fenter yn cael cefnogaeth gan Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru, Cwmni Acorn Recruitment, cwmni Bluegg a Seer Green Financial Planning.