Mae’r gwasanaethau achub wedi cael eu galw i chwilio am ddynes sydd wedi disgyn oddi ar fwrdd llong fferi ym Môr Iwerddon, a bellach mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau fod corff wedi ei ddarganfod yn ardal Lawrenni yn Sir Benfro.

Cafodd yr awdurdodau eu hysbysu am 8.15 fore heddiw gan Long Fferi Isle of Inishmore, fod teithiwr wedi disgyn i’r môr. Roedd y llong yn hwylio o Sir Benfro i borthladd Rosslare yn Iwerddon.

Roedd yr ymgyrch i ganfod y ddynes yn cael ei harwain gan wylwyr y glannau, gyda’r gwasanaethau awyr yn St Athan yn cynorthwyo.

Mae dau o hofrenyddion gwylwyr y glannau yn Iwerddon wedi bod yn cynorthwyo gyda thimau achub yn chwilio yn ardal Dinbych-y-Pysgod, Llansteffan a St Govans.

Roedd Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn rhan o’r ymgyrch, a chychod sy’n pasio trwy’r ardal yn cael eu rhybuddio i fod yn wyliadwrus.