Mae tollau’r ddwy bont sy’n croesi’r Afon Hafren i mewn ac allan o Gymru, yn cynyddu yn y flwyddyn newydd.
O fis Ionawr ymlaen fe fydd ceir a charafanau yn talu £6.70 sy’n gynnydd o 10 ceiniog ar y pris presennol.
Bydd tollau ar gyfer faniau a bysus bach yn cynyddu 20 ceiniog i £13.40. Fe fydd prisiau ar gyfer lorïau a bysus yn codi i £20, sef cynnydd o 20 ceiniog.
Mae Llywodraeth Prydain serch hynny wedi addo y bydd y doll yn cael ei haneru yn 2018, pan fydd y ddwy bont yn dod dan berchnogaeth gyhoeddus.