Mae gyrrwr tacsi yng Nghaerfyrddin wedi ei wahardd rhag cyflenwi ei wasanaeth am saith diwrnod, a hynny gan bwyllgor trwyddedu’r cyngor sir.

Roedd y gyrrwr wedi gwrthod hebrwng teithiwr a oedd yn dioddef o Sglerosis Ymledol (MS) oherwydd fod y daith, yn ei dyb ef, yn rhy fyr.

Roedd y gyrrwr tacsi David Maynard yn gwadu ei fod wedi gwrthod mynd â Barbara Stensland o Orsaf Reilffordd Caerfyrddin i Westy’r Ivy Bush ar stryd Spillman ynghanol Caerfyrddin.

Ond mae Barbara Stensland yn honni fod David Maynard wedi chwerthin arni ar ôl iddi ddweud lle’r oedd am fynd, a bod gyrrwr y tacsi wedi dweud fod y daith yn rhy fyr ac y byddai’n colli ei drwydded tacsi.

Fe glywodd pwyllgor trwyddedu Cyngor Caerfyrddin fod Barbara Stensland wedi teithio ar drên i Gaerfyrddin ar ddydd Gwener Awst y 5ed, ac roedd wedi blino’n ofnadwy o ganlyniad i’r siwrne, ei MS a’r tywydd poeth.

Dywedodd y Cynghorydd Jim Jones ar ran Bwrdd Gwarchod y Cyhoedd a’r Amgylchedd: “Mae hyn yn fater difrifol iawn ac mae’n bwysig i gofio fod gwrthod hebrwng teithiwr yn drosedd.”