Llun Undeb Amaethwyr Cymru adeg yr ymgyrch Brexit
Mae arolwg wedi awgrymu y byddai trigolion Cymru wedi pleidleisio i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd oni bai am ddylanwad y gwefannau cymdeithasol fel Twitter a Facebook.

Yn y refferendwm ar 23 Mehefin, roedd 52.5% o bobol Cymru wedi pleidleisio i adael a 47.5% bleidleisio i aros – gyda 17 o 22 ardaloedd awdurdodau lleol y wlad o blaid mynd.

Ond mae 47% o bobol o bob cwr o wledydd Prydain – cymysgedd o’r rhaid a bleidleisiodd i aros a gadael – wedi dweud y byddai’r canlyniad fwy na thebyg yn wahanol heb ddylanwad Facebook a Twitter.

Trump

Mae’r ymchwil gan YouGov hefyd wedi gweld yr un patrwm yn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau.

Roedd 49% o bobol yn credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan fawr ym muddugoliaeth Donald Trump ac na fyddai wedi ennill oni bai am y llwyfannau newydd.

Dywedodd 68% eu bod yn credu y dylai cwmnïau fel Facebook wneud mwy i reoli erthyglau ffug neu gamarweiniol all gael effaith ar benderfyniadau gwleidyddol.