BHF Cymru (Llun o wefan yr elusen)
Mae elusen iechyd calon wedi canmol Cymru am gynnydd mewn triniaeth i helpu cleifion i adfer eu iechyd ar ôl trawiadau.

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon – y BHF – mae Cymru bellach yn arwain y byd yn y maes, er bod rhagor o waith ar ôl i’w wneud.

Mae ffigurau diweddara’r Sefydliad – sy’n cael eu cyhoeddi mewn adroddiad blynyddol – yn dangos bod  tri o bob pump claf yn y maes bellach yn cael y driniaeth.

Mae’n golygu ymarferion a gofal sy’n helpu pobol i adfer eu hiechyd ar ôl trawiad ac i ailafael yn eu bywydau.

‘Positif iawn’

“Mae’n golygu bod pobol yn gallu parhau i fyw eu bywydau,” meddai Ruth Coombs, penaeth BHF Cymru wrth Radio Wales ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ar gyfer 2016.

“Mae’n adroddiad positif iawn, ond byddai’n wych gallu dweud bod 100% o gleifion yn derbyn y gwasanaeth.”

Clefydau’r galon sy’n gyfrifol am y nifer ucha’ o farwolaethau yng Nghymru.