Mae dyn 24 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio milwr ar noson allan yn nhref Aberhonddu ar ôl brolio mai fo oedd y “dyn caletaf” yn y dref.

Cafwyd hyd i’r Preifat Matthew Boyd, 20, o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, yn anymwybodol ar noson Mai 8 eleni.

Dyfarnodd y rheithgor bod Jake Vallely, 24, yn gyfrifol am ei lofruddio mewn ymosodiad meddwl tu allan i dafarn The Cellar, cyn symud ei gorff o’r lleoliad.

Roedd cyfaill iddo, Aaeron Evans, yn cael ei gyhuddo o ddynladdiad ond fe’i cafwyd yn ddi-euog.

Fe fydd Jake Vallely yn cael ei ddedfrydu yr wythnos nesa’.