Mae’r heddlu yn parhau i chwilio am bedwar dyn a dorrodd i mewn i siop emwaith yn Llandudno ddydd Mercher a dwyn eitemau gwerthfawr.
Mae adroddiadau lleol yn dweud bod y dynion yn cario arfau fel machete, ond nid yw’r heddlu wedi cadarnhau hynny.
Digwyddodd y lladrad am tua 2.20yp ddydd Mercher, Tachwedd 30, mewn siop yn Stryd Mostyn ac fe wnaeth y dynion chwalu cypyrddau gwydr cyn rhedeg i ffwrdd gyda gemwaith.
“Rydan ni’n credu bod y troseddwyr wedi gadael yr ardal mewn BMW llwyd,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru. ”
Mae nifer o dystion wedi dod ymlaen ac rydym yn apelio ar unrhyw un arall sydd â gwybodaeth am hyn neu a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal ar adeg y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu.”
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.