Mae pedwar dyn o Lerpwl wedi gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth tad i ddau o blant yn Y Rhyl.

Cafodd James Davies (20), Anthony Baines (30), Jake Melia (21), a Mark Ennis (30), eu harestio a’u cyhuddo o ladd Mark Mason o’r Rhyl mewn maes parcio yn y dref ar Hydref 27.

Roedd y tad 48 oed wedi cael ei drywanu a bu farw’n ddiweddarach yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae’r pedwar dyn o Lerpwl hefyd wedi’u cyhuddo o glwyfo maleisus gyda bwriad i achos niwed corfforol difrifol yn erbyn dau ddyn arall ar yr un noson.

Fe aeth y pedwar o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau, gan wadu’r holl gyhuddiadau.

Mae disgwyl i’r achos llawn ddechrau ar Ebrill 25.