Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad traffig a ddigwyddodd ger cyffordd Margam ar yr M4 fore dydd Mawrth, Tachwedd 29.

Bu farw dynes 27 oed, Rebecca Evans, yn y fan a’r lle.

Roedd y ddynes yn feichiog a bu farw’r baban, wyth mis, yr oedd hi’n ei gario.

Cafodd bachgen dwyflwydd oed ei gludo i’r ysbyty ac mae’n parhau yno.

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 8.20 y bore rhwng car BMW, Peugeot ac Audi ar y ffordd tua’r gorllewin.

Cafodd dyn, 50 oed, ei arestio ar y pryd ac mae wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth ar gais ymholiadau pellach.