Llun: Gregg Lynn
Cafodd cymdeithas newydd ei sefydlu yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddoe er mwyn hybu golwg newydd ar y byd.

Bydd Cymdeithas Dyneiddwyr Cymru, sy’n ymwrthod ag unrhyw grefydd, yn ymgyrchu i ddod ag ysgolion ffydd a gwasanaethau crefyddol i ben mewn ysgolion.

Drwy sefydlu cymdeithas yng Nghymru, mae’r Dyneiddwyr, neu’r Humanists, yn gobeithio codi eu proffil a pherswadio eraill i’w ymuno.

Bu golwg360 yn y lansiad ac yn holi’r cyn bargyfreithiwr, Gregg Lynn, o’r grŵp Hwntws, ychydig mwy am y gymdeithas.

“Mae’n bwysig i fi oherwydd dw i ddim yn credu mewn Duw,” meddai.

“Ar ôl mynd i’r Ysgol Sul yn y Cymoedd, ro’n i rhwng 8 a 10 oed, a gwrando ar straeon yno am ddechrau’r byd, Duw wedi creu’r byd, a’r baban Iesu’n cael ei eni, ac ar ôl byw, ail-fyw a mynd lan i’r awyr rhywle, roedd e’n amlwg i fi, pan ro’n i’n rhyw 12 oed, bod e ddim yn wir.

“Felly os nad ydych chi’n credu yn Nuw, beth arall sydd ‘da ni? Chi’n gallu byw heb Dduw, ydy hynny’n golygu bod ti’n gallu gwneud unrhyw beth ti mo’yn?

“Wel na, wrth gwrs dyw e ddim. Mae’n rhaid bod yn aelod o’r gymuned ac [yn] aelod da.

“Dw i’n cwrdd â llawer o bobol yng ngorllewin Cymru, lle dw i’n byw nawr yng Ngheredigion, sy’n mynd i’r capeli ac maen nhw’n dweud wrtha ‘i, ‘dw i ddim yn credu, dw i jyst yn mynd achos fy rhieni, aethon nhw…’”

“Beth rwy’n gobeithio yw gwneud y pwynt iddyn nhw, ‘ry’ch chi’n gallu bod yn berson da ac yn aelod o’r gymuned heb gredu mewn ysbrydion, a phob math o Dduw yn y byd, ysbrydion [ydyn nhw].