Georgina Symonds (Llun: Heddlu Gwent/PA)
Mae llys wedi clywed bod miliwnydd sydd wedi’i gyhuddo o dagu ei gariad i farwolaeth yn Llafarthyn, Casnewydd, wedi cael ei flacmelio.

Cafwyd hyd i Georgina Symonds, 25 oed, yn farw ar Ionawr 12 eleni ac mae Peter Morgan, 54 oed, yn gwadu’i llofruddio.

Clywodd y llys fod y gŵr o Lanelen ger Y Fenni wedi prynu anrhegion drud a thalu £10,000 y mis am ei chwmni.

Mae’n debyg ei fod wedi plannu dyfais gwrando cudd yn ei chartref ac wedi clywed trafodaeth rhwng y ddynes a’i chariad newydd, Tom Ballinger, wrth iddi ddweud ei bod yn bwriadu gadael Peter Morgan a’i flacmelio.

‘Eisiau brifo’

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw, clywodd y rheithgor sut oedd Georgina Symonds wedi bygwth dweud wrth deulu Peter Morgan sut y gwnaeth hi ei gwrdd ag ef.

Dywedodd mam y ferch wrth y llys, Deborah Symonds, bod ei merch eisiau “brifo” Peter Morgan am farwolaeth ei chyn-gariad.

Clywodd y llys yn gynharach bod Georgina Symonds wedi beio Peter Morgan am yr hunanladdiad a ddigwyddodd ym mis Tachwedd 2015.

‘Obsesiwn’

Mae’r erlynwyr yn honni fod gan Peter Morgan “obsesiwn” gyda’r ferch wrth i’r peiriant gwrando a osododd yn ei chartref gael ei ddefnyddio 514 o weithiau rhwng Tachwedd 2015 a’i marwolaeth ym mis Ionawr.

Roedd Peter Morgan wedi cyfaddef wrth yr heddlu ar Ionawr 13 ei fod wedi lladd Georgina Symonds.

Mae’r achos yn parhau.