Mae adroddiad newydd yn awgrymu fod angen ethol Cynulliad ‘mwy’ yng Nghymru – a bod hynny’n golygu ethol mwy o Aelodau.

Mae’r adroddiad ‘Ail-lunio’r Senedd’ yn ffrwyth gwaith Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd a’r Electoral Reform Society Cymru (ERS Cymru).

Un o’r awgrymiadau yw codi’r nifer o Aelodau Cynulliad o 60 i 87, a hynny mewn 29 o etholaethau.

Mae hynny’n golygu 3 aelod i bob etholaeth, ac mae’r adroddiad yn cynnig dau opsiwn i’w hethol, unai drwy Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy neu Restr Agored.

‘Symud democratiaeth Cymru’

“Mae ein hadroddiad yn defnyddio saith egwyddor i asesu’r prif systemau pleidleisio sy’n bosibl i’w cael. Rydym am i bob plaid ymrwymo i’r egwyddorion hyn fel sail ar gyfer trafodaeth resymegol,” meddai’r Athro Roger Scully, Cyfarwyddwr Dros Dro Canolfan Llywodraethiant Cymru.

“Rydym yn gwybod y bydd y pleidiau yn dod at hwn o safbwyntiau gwahanol, felly gall yr adroddiad hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail ddifrifol i ddarganfod tir cyffredin ar gyfer trafodaethau i gytuno ar sut i symud democratiaeth Cymru yn ei flaen,” meddai wedyn.

Ychwanegodd Dr Owain ap Gareth, Swyddog Ymgyrchoedd ac Ymchwil ERS Cymru, “mae pwerau trethu newydd, a’r posibilrwydd o bwerau ychwanegol o Ewrop yn gwneud yr achos dros Gynulliad mwy o faint, wedi’i hethol yn deg, yn gryfach nag erioed.”

Llywydd yn croesawu’r adroddiad

Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC, “yn gynharach y mis hwn, amlinellais uchelgeisiau Comisiwn y Cynulliad o ran capasiti’r Cynulliad yn y dyfodol.

“Cytunodd y Comisiwn fod yr achos o blaid cael Cynulliad mwy o faint yn fwy grymus nag erioed o’r blaen, a chytunodd y dylid bwrw ymlaen â’r gwaith i ymchwilio ymhellach i’r materion perthnasol ar sail drawsbleidiol, gan fanteisio ar gyngor arbenigol, niwtral.”

Dywedodd fod y pŵer i ddeddfu ar gynyddu maint y sefydliad a’r system etholiadol yng Nghymru yn dibynnu ar basio Mesur Cymru sydd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

“Cytunodd y Comisiwn yn unfrydol y bydd datblygu’r gwaith hwn, gan weithredu ar ran y sefydliad ac er budd democratiaeth yng Nghymru,” meddai’r Llywydd.

“Croesawaf yr adroddiad hwn gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru a chredaf y bydd o gymorth i’r drafodaeth wrth i’r Comisiwn ddatblygu’r gwaith pwysig hwn.”