Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Cymru “symud yn gyflym” wrth ddod i benderfyniad ynglyn ag ariannu canolfan yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, gwestiwn brys gan Simon Thomas AC yn y siambr brynhawn Mawrth, gan ddweud bod cais wedi dod am arian gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i wireddu syniad o greu clwstwr ar gyfer diwydiannau creadigol.

“Mae penderfyniad S4C i symud i Gaerfyrddin yn fater i fwrdd y darlledwr a does dim o arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio er mwyn adleoli S4C,” meddai Simon Thomas.

“Ond mae creu’r clwstwr ar gyfer diwydiannu creadigol yn gynllun llawer mwy. Bydd yn gartref i S4C a fydd un o sawl cwmni rwy’n gobeithio sy’n mynd i ddod i Gaerfyrddin.

“Amcangyfrifir y bydd adeiladu’r Egin yn creu 100 a mwy o swyddi newydd yn y Gorllewin. Rydw i yn cefnogi’r datblygiad yn ogystal â’r penderfyniad i adleoli S4C.”