Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am newid y drefn o ymateb i alwadau brys ynglŷn â phobol sy’n dioddef o drawiadau ar y galon neu strôc.

O dan y model presennol, mae’r blaid yn dweud nad oes targedau amser penodol i gleifion sy’n cael poenau yn y fron, all arwain at drawiad, neu strôc – er bod canllawiau iechyd yn dweud ei bod yn hanfodol i drin y symptomau mor gyflym ag sy’n bosib.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i ateb ‘galwadau coch’ sy’n bygwth bywyd, fel tagu, sepsis neu drawiad ar y galon, o fewn wyth munud. Ond nid oes targed amser ar gyfer ‘galwadau ambr’ fel stroc na phoenau yn y fron.

“Allwch chi ond bod yn gwmws i gael ambiwlans o fewn wyth munud ar hyn o bryd os yw eich calon wedi stopio – mae hynny’n warthus,” meddai A Dwyrain Clwyd, Darren Millar.

“Mae trawiad ar y galon, fel stroc, yn golygu bod pob munud sy’n pasio yn lleihau’r siawns o wellhad. Dylai Llywodraeth Cymru roi’r cyflyrau hyn yn y categori wyth munud.”