Llun: PA
Fe fydd nifer o newidiadau i amserlenni’r trenau yn ne Cymru dros gyfnod y Nadolig o ganlyniad i waith moderneiddio’r rheilffordd.

Network Rail fydd yn cynnal y gwaith, ac fe fydd yn effeithio ar wasanaethau trenau yng Nghaerdydd a’r cymoedd ynghyd â’r gwasanaethau rhwng Casnewydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae Trenau Arriva Cymru yn annog teithwyr i wirio’r amserau a threfnu eu taith o flaen llaw, wrth i’r gwaith mwyaf gael ei gynnal rhwng Rhagfyr 24 ac Ionawr 2, 2017.

Ni fydd gwasanaethau Great Western Railway yn rhedeg ar 25 a 26 Rhagfyr, ac fe fydd bysus yn rhedeg yn lle trenau ar 27 a 28 Rhagfyr, a’r 1 a 2 Ionawr.