Rhun ap Iorwerth AC Plaid Cymru
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi mynegi ambell bryder ynglŷn â chysylltiad rhai o Gomisiynwyr Cymru â phleidiau gwleidyddol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod angen cynnal “penodiadau mwy agored” wrth benodi Comisiynwyr yng Nghymru.

Cyfeiriodd yn benodol at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, a gafodd ei phenodi’r llynedd fel y comisiynydd cyntaf yn y maes mewn ymateb i Fesur Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Cafodd pryderon eu codi’r adeg hwnnw oherwydd ei chysylltiadau â’r Blaid Lafur, lle bu’n gyn-gynghorydd.

‘Adeiladu ymddiriedaeth’

“Pan mae’n dod at y penodiad yna [penodi Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol], dw i’n ymwybodol o gwestiynau a gafodd eu codi oherwydd ei pherthynas hi efo’r Blaid Lafur, doedd y berthynas yna efo’r Blaid Lafur ddim yn gyfrinachol, wrth gwrs, mi oedd hi’n amlwg iawn yn ffigwr yn ymwneud â’r Blaid Lafur,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Be’ sydd angen ydy creu ymddiriedaeth a phan mae’n dod at unigolion…. mae fyny i’r unigolion adeiladu’r ymddiriedaeth yna a phrofi eu gallu i ymddwyn mewn ffordd sy’n amddiffyn buddiannau pawb.

“Ac os oes unrhyw awgrym bod pobol yn rhoi buddiannau eu plaid dros fuddiannau’r bobol maen nhw’n cynrychioli, yna mae angen delio efo hynny,” meddai wedyn.