Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yng nghynhadledd y Blaid Lafur Llun: PA
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur yng Nghymru adolygu’r modd y maen nhw’n ethol eu harweinydd yn y dyfodol.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad yng nghynhadledd y Blaid Lafur ar Dachwedd 5 i ddatganoli mwy o bwerau rheoli ar gyfer y blaid yng Nghymru.

Fe fydd y blaid yn cynnal ymgynghoriad am y newidiadau posib dros y misoedd nesaf.

Ar hyn o bryd mae’r blaid yn ethol eu harweinydd trwy gyfwng coleg etholiadol sy’n cynnwys aelodau cyffredin, aelodau etholedig a grwpiau fel yr undebau llafur.

Ond fe gafodd Jeremy Corbyn ei ethol yn arweinydd Llafur y Deyrnas Unedig eleni drwy bleidlais gan yr aelodau yn unig.

Mae’r ymgynghoriad yn ystyried a ddylai Llafur Cymru ddilyn y llwybr hwnnw hefyd.

Yn ôl llefarydd ar ran Llafur Cymru, “mae’r adolygiad yn cael ei gynnal dros 2017 ac mae’r Pwyllgor Gweithredol Cymreig yn cydnabod mai’r brif flaenoriaeth yn y misoedd nesaf yw paratoi ar gyfer etholiad y cynghorau ym mis Mai 2017.”