Llun: Llywodraeth Cymru
Mae rheolau newydd yn dod i rym heddiw sy’n golygu fod yn rhaid i siopau tecawê sy’n gwerthu dros y ffôn neu ar-lein ddangos eu sgôr hylendid bwyd ar unrhyw daflen neu fwydlen.

Mae’n rhaid i’r daflen sy’n cyfeirio cwsmeriaid at wybodaeth i archebu’r bwyd gynnwys datganiad dwyieithog sy’n eu hannog i edrych ar eu sgôr ar wefan sgorio hylendid bwyd.

Daw hyn dair blynedd wedi i’r Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ddod i rym yn 2013 gan orfodi pob busnes bwyd i arddangos eu sgoriau yn gyhoeddus ar eu safleoedd.

‘Diogelu cwsmeriaid ymhellach’

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 94% o fusnesau bwyd yng Nghymru bellach â sgôr ‘boddhaol’ a 62.5% o fusnesau bwyd Cymru â’r sgôr uchaf.

“Diben y rheolau newydd sy’n dod i rym heddiw yw diogelu ymhellach gwsmeriaid sy’n archebu bwyd dros y ffôn, neu ar-lein, na chânt y cyfle i weld y sgôr ar arddangos yn y safle drostynt eu hunain cyn archebu,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

“Bydd arddangos y datganiad ar daflenni’n annog cwsmeriaid i edrych ar y sgôr ar-lein neu ofyn i’r busnes tecawê am ei sgôr dros y ffôn cyn archebu.”