Rob Howley (Llun: Cynulliad CCA2.0)
Mae angen i dîm rygbi Cymru “godi i’r lefel nesaf” yn dilyn eu buddugoliaeth o 27-13 yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd brynhawn ddoe, yn ôl yr hyfforddwr dros dro, Rob Howley.

Howley sydd wrth y llyw am y tro wrth i Warren Gatland baratoi ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd haf nesaf.

Sicrhaodd Cymru eu trydedd buddugoliaeth erioed dros Dde Affrica yn dilyn ceisiau gan Ken Owens a Justin Tipuric yn yr ail hanner, wrth i Leigh Halfpenny sgorio 17 pwynt gyda’i droed.

Dywedodd Rob Howley: “Dw i wrth fy modd ar ran y chwaraewyr.

“Fe ddywedon ni yn y gwesty pe bai pawb yn gallu gweld y gwaith caled a’r ymdrech ac agwedd y chwaraewyr yn nhermau ymarfer dros y pum wythnos diwethaf, y bydden ni’n ennill pob gêm.

“Dydy’r newid o’r ymarfer, am ba bynnag reswm, ddim wedi cyrraedd y safon roedden ni i gyd yn ei ddisgwyl. Dyna’r her heddiw.

“Dw i’n credu ein bod ni’n gyfforddus ac wedi gallu ymestyn De Affrica fwy o weithiau nag y gwnaethon nhw lwyddo i’n hymestyn ni. Mae yna lefel arall gyda ni – dw i’n credu ein bod ni wedi curo De Affrica’n gyfforddus.

“20-6 ar y blaen, wnaethon ni ddim gwneud pethau’n hawdd i ni ein hunain. Dy’n ni erioed wedi gwneud, a fyddwn ni fyth.

“Dyna’r her, ond dw i wrth fy modd ar ran y chwaraewyr, gan eu bod nhw’n haeddu’r fuddugoliaeth honno.”

Ar ôl ennill tair gêm allan o bedair, dyma’r hydref mwyaf llwyddiannus i Gymru ers 2002.

Ychwanegodd Rob Howley: “Ry’n ni wedi curo De Affrica am y trydydd tro yn unig o nifer o fwlch sy’n record, ond mae angen i ni godi i’r lefel nesaf.”

Ar ôl y gêm, cyhoeddodd Undeb Rygbi De Affrica ddatganiad yn ymddiheuro am eu perfformiad.

Mae’r canlyniad yn sicr o daflu cysgod dros ddyfodol yr hyfforddwr Allister Coetzee, sydd wedi colli wyth gêm eleni.