Matthew Lee Griffiths (llun gan Heddlu De Cymru)
Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth ynghylch llanc ifanc sydd wedi bod ar goll ers rhai dyddiau.

Cafodd Matthew Lee Griffiths, 18 oed ei weld ddiwethaf  yn gadael ei gartref yn ardal Grangetown o’r ddinas ddydd Mawrth. Roedd yn gwisgo jîns du, crys t a siaced werdd gyda phoced ar y frest.

Mae plismyn yn pryderu am ei ddiogelwch ac yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei weld neu sy’n gwybod lle gall fod eu ffonio nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod 1600455385.