Bydd gwasanaeth bws uniongyrchol rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn ei ôl ddechrau’r mis nesaf yn dilyn misoedd o fod heb y gwasanaeth.

Mae disgwyl i wasanaeth dyddiol y 701 fod yn weithredol eto erbyn 5 Rhagfyr ond nid yw hynny’n cynnwys dydd Sul ar hyn o bryd.

Bydd y gwasanaeth newydd yn dod dan wasanaeth Traws Cymru Llywodraeth Cymru ac nid mewn dwylo preifat, fel yr oedd ynghynt.

Fe aeth cwmni Lewis Coaches, Llanrhystud, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth, i’r wal ym mis Awst.

Croesawu’r newyddion

Dywedodd Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, ei bod yn croesawu’r newyddion a’i bod yn annog pobol i ddweud eu barn am y gwasanaeth newydd.

“Rwy’n falch iawn i ddweud bod y gwasanaeth hanfodol hwn rhwng Aberystwyth a Chaerdydd i’w ail-sefydlu, mae nifer fawr o etholwyr wedi gweld ei eisiau,” meddai.

“Fe fydd y T1C, sef enw newydd y bws, yn ailgychwyn ar y 5ed o Ragfyr. Un gwasanaeth y dydd i Gaerdydd ac yn ôl fydd hi o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, ac fe fydd y gwasanaeth am ddim i bensiynwyr a phobl sydd â Cherdyn Teithio Rhatach.

“Nid oes gwasanaeth bws ar ddydd Sul ar hyn o bryd, ond ymhen 6 mis fe fydd y Llywodraeth yn adolygu’r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn rhedeg yn effeithiol, felly hoffwn annog pawb, bryd hynny, i gymryd rhan yn y broses o gasglu barn am y gwasanaeth a’r amserlen.”

Dyma amserlen newydd y bws,

Gadael Aberystwyth am 7.40 y bore a chyrraedd Caerdydd am 12.15 y prynhawn.

Gadael Caerdydd am 16.40 a chyrraedd Aberystwyth am 21.24 y nos.