Wrth i gyfnod y Nadolig agosáu, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog siopwyr i siopa’n lleol y flwyddyn hon i gefnogi busnesau a ffermwyr lleol.

Dywedodd Llywydd y mudiad, Glyn Roberts, fod gwario punt yn lleol “yn mynd ymhellach” na gwario punt mewn archfarchnad neu siop fawr.

“Wrth gefnogi ein busnesau lleol, nid ydym yn helpu Prif Weithredwr i brynu trydydd tŷ gwyliau, ond yn helpu tad a mam leol i roi bwyd ar y bwrdd, teulu i dalu’r morgais, merch fach i gael gwersi dawnsio a sicrhau bod bachgen bach yn cael crys t ei hoff dîm bêl-droed,” meddai.

Mae modd siopa’n lleol wrth brynu bwyd at y cinio Nadolig neu wrth brynu anrhegion ar gyfer y diwrnod mawr.

“Siaradwch gyda’r cigydd lleol ynglŷn â chig dros gyfnod y Nadolig ac ewch draw i’r siop fferm leol i weld beth sydd gyda nhw i gynnig, rwy’n addo i chi y dewch o hyd i nifer o’r cynhwysion sydd angen ar gyfer y cinio Nadolig yn agos iawn at adref,” ychwanegodd Glyn Roberts.

“Mae digon o siopau bach hefyd sy’n cynnig crefftau Cymreig ac anrhegion wedi cael eu cynllunio’n lleol, ac mae’r dewis ar gyfer bwyd yn niferus.

“Mae’n werth edrych i weld beth sydd ar gael.  Mae’n penderfyniadau bach ni yn cael effaith eang ar ein heconomi leol.”