Fe fydd drama newydd chwe awr o hyd yn cael ei dangos yn Aberystwyth o fewn yr wythnosau nesa’ a fydd yn dangos sut mae menywod ifanc Cymru yn meddwl am y byd.

Mae’r cynhyrchwyr, sydd wedi creu’r ddrama fel rhan o’u prosiect blwyddyn olaf yn y Brifysgol, yn dweud mai dyma’r tro cyntaf fydd profiadau real merched ifanc yn cael eu portreadu ar lwyfan drwy’r iaith Gymraeg.

“Mae gennych chi chwe merch yn mynegi eu profiadau nhw, felly mae’n neis gweld agwedd menywod ifanc yng Nghymru am y tro cyntaf,” meddai Megan Cynllo Lewis, un o’r grŵp.

“Achos dy’ch chi ddim yn clywed dim byd really drwy gyfrwng y Gymraeg am fenywod ifanc.”

Lladd amser

Bydd drama ‘hir-oddefol’ Er Cof yn dathlu amser drwy ‘ladd amser’ – does ‘na ddim sgript i’r cynhyrchiad, dim testun a dim “rheolau theatrig normal”.

“Mae’r chwe awr yn chwarae gydag amser. Ry’n ni’n gwahodd y gynulleidfa i ddathlu’r amser achos dy’ch chi’n lladd amser o hyd,” ychwanegodd Megan Lewis.

Er bod National Theatre of Wales wedi gwneud drama hir-oddefol, dyma fydd yr un gyntaf yn y Gymraeg, sy’n “torri tir newydd”, yn ôl y myfyrwyr.

Bydd cannoedd o bapurau ar lawr y llwyfan mewn theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth, gydag un gair ar bob papur, a fydd, yn eu tro, yn gorfodi’r actorion i ateb cwestiynau’n ymwneud â’r gair hwnnw.

“Felly er enghraifft, mae gennym ni ‘Gadael’ neu ‘Aros’, felly ry’n chi’n pigo’r papur ac yn gorfod meddwl am gwestiwn sy’n ymwneud â’r gair yna,” meddai Megan Lewis.

“Ry’n ni’n gallu dweud celwyddau neu fod yn hollol onest. Fe fyddwch chi ddim yn siŵr iawn beth sy’n iawn a beth sydd ddim.”

Bydd modd dod i mewn a gadael fel mynna’r gynulleidfa, ond i’r rhai fydd yn dewis aros am y chwe awr gyfan, mae’r myfyrwyr yn addo na fydd y cynhyrchiad yn undonog, gyda “rhywbeth gwahanol yn digwydd drwy’r amser”.

“Esblygu’n naturiol”

Yn ôl Megan Cynllo Lewis, fe wnaeth y cynhyrchiad “esblygu’n naturiol” ar ôl gweld drama chwe awr yn cael ei pherfformio yn Brighton.

“Fe wnaethon ni fel criw fynd i weld cynhyrchiad gan gwmni o’r enw Forced Entertainment, maen nhw’n gwmni ar blatfform rhyngwladol,” meddai.

“Ac fe wnaethon nhw wneud perfformiad chwe awr o’r enw, And on the Thousandth Night a wnaeth e sbarduno ni bod angen rhywbeth fel ‘na yn yr iaith Gymraeg.

“Mae wedi esblygu’n naturiol o rywbeth bach, a’i ehangu i rywbeth chwe awr.”

Bydd y cyfan yn cael ei ffrydio’n fyw ar 8 Rhagfyr rhwng 4 o’r gloch y prynhawn a 10 yr hwyr, gyda’r ddrama ei hun yn Stiwdio Emily Davies, Adeilad Parry Williams ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae tocynnau am ddim a bydd bwffe neu “te angladd” i’r gynulleidfa.