Mae merch ifanc a helpodd i lanhau yn dilyn llofruddiaeth erchyll am ei bod “wedi gwirioni” â’r llofrudd wedi cael dedfryd o garchar wedi’i gohirio.

Fe wnaeth Sophie Jones, 18, lanhau gwaed mewn tŷ lle wnaeth Phillip Hudson-Jones ladd a datgymalu Maruisz Majewsky cyn iddo fe a’i gynorthwy-ydd, Adrian Iwanowski, losgi’r corff yn yr ardd gefn.

Dywedodd yr Ustus Edis, y gallai’r llofruddiaeth ar 10 Tachwedd y llynedd wedi cael ei chadw’n dawel oni bai bod Adrian Iwanowski wedi dweud wrth yr heddlu yn ddiweddarach.

Cafodd Phillip Hudson-Jones, 46 ac Adrian Iwanowski, 21, eu cyhuddo o lofruddiaeth yn Llys y Goron Abertawe ar 2 Tachwedd eleni.

Roedd y ddau, sydd o Lanelli, wedi cael dedfrydau oes, gyda Phillip Hudson-Jones yn gorfod aros yn y carchar am o leiaf 22 o flynyddoedd ac Adrian Iwanowski, 15 o flynyddoedd.

Achos Sophie Jones

Cafwyd Sophie Jones, sydd hefyd yn byw yn Llanelli, yn euog o helpu troseddwr gyda bwriad i rwystro dirnadaeth.

Fe ymddangosodd yn Llys y Goron Southwark, Llundain, drwy gyswllt fideo o’r ddalfa, lle gafodd dwy flynedd mewn sefydliad i droseddwyr ifanc wedi’i ohirio am ddwy flynedd.

Clywodd y llys fod y ferch wedi bod yn ymwybodol o’r cynllun i ladd Maruisz Majewsky, gwerthwr cyffuriau oedd ar ffo o’r Almaen, am ei fod wedi ymosod ar Adrian Iwanowski fisoedd ynghynt.

“Rydw i’n derbyn eich bod wedi dod yn rhan o’r erchylltra hwn am eich bod wedi’ch gwirioni ag Iwanowski,” meddai’r Ustus Edi.

“Dw i’n meddwl eich bod yn ifanc iawn, yn anaeddfed iawn a’ch bod yn gwneud pethau dwl iawn ac weithiau, pethau drwg iawn,” ychwanegodd.

“Mae gennych gyfle i gael eich bywyd yn ôl at ei gilydd a’i fyw yn iawn.”

Fe ddywedodd Sophie Jones “diolch” ar ôl i’r barnwr ddod â’i ddedfryd i ben.