Mae Aelod Cynulliad yn galw ar iddi gael ei gwneud yn orfodol i bob pysgotwr yng Nghymru wisgo siacedi achub wrth eu gwaith, wedi i ddau bysgotwr o Sir Benfro farw ar y môr.

Mae’r Aelod Cynulliad, Simon Thomas, wedi galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru sy’n ystyried y posibilrwydd o orfodi pysgotwyr i wisgo siacedi achub.

Yn ôl crwner achos y ddau ddyn o bentref Caeriw, mae yna “ddiwylliant” ymhlith pysgotwyr o beidio gwisgo siacedi achub ac mae bwriad i gysylltu ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn ei wneud yn orfodol ledled gwledydd Prydain.

“Yn ddiweddar, bu farw dau ddyn o Gaeriw yn y môr oherwydd anffawd, ond un o’r ffactorau a nodwyd yn y cwest oedd y ffaith nad oedd y ddau, fel pysgotwyr, yn gwisgo siacedi achub,” meddai Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

“Gan fod pysgodfeydd, os nad y materion iechyd a diogelwch yma, wedi’u datganoli, dylai fod yn fwriad gan y Llywodraeth hefyd i wneud datganiad ar y mater yma.

“Dylid hefyd gysylltu â’r crwner ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn deall beth all gael ei wneud yn awr yng Nghymru i ddiogelu a chynyddu diogelwch ar y moroedd.”

Ateb addawol o Lywodraeth Cymru

Does dim cadarnhad wedi dod gan Lywodraeth Cymru eto ar y mater ond yn ôl Simon Thomas, daeth addewid gan arweinydd y Tŷ, Jane Hutt AC, i wella diogelwch pysgotwyr.

“Yn ôl Jane Hutt AC, mae trafodaethau gweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, y diwydiant pysgota, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, a Seafish ynghylch diogelwch pysgotwyr,” ychwanegodd.

“Byddaf yn parhau i wthio Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau diogelwch i Bysgotwyr Cymreig.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.