Mae Prifysgol Bangor wedi cadarnhau eu bod nhw wedi galw contractwyr i mewn yr wythnos hon i drafod trwsio tyllau yn nho canolfan gelfyddydau Pontio – a hynny flwyddyn yn unig ers i’r adeilad newydd sbon agor ei ddrysau i’r cyhoedd.

Nos Lun, gyda storm o wynt a glaw trwm yn chwipio y tu allan, roedd dwy fwced felen, a ddefnyddid fel arfer gan lanhawyr, wedi’u gosod ar y grisiau rhwng lloriau 1 a 2 er mwyn dal y diferion dŵr oedd yn dripian o’r to.

Roedd arwyddion melyn ger pob bwced yn rhybuddio cerddwyr rhag llithro ar y llawr, wrth iddyn nhw fynd i gyfeiriad y Stiwdio ar lawr 2.

Mae’r adeilad, ar Ffordd Deiniol ym Mangor, wedi bod yn ddatblygiad dadleuol. Fe gostiodd £49m i’w gwblhau, ond roedd flwyddyn yn hwyr yn agor ei ddrysau’n swyddogol. Fe fu dadlau am fewnforio’r galchfaen ar gyfer yr haen allanol i’r adeilad, ac fe fu’r cwmni adeiladu, Galliford Try, dan y lach ar sawl achlysur.

Chwe mis cyn ei agor, ym mis Ebrill 2015, roedd adroddiadau am lanast dŵr ar waliau a nenfydau’r adeilad, a’r modd yr oedd grisiau, ystafelloedd dan ddaear, ynghyd â sinema’r adeilad wedi’u difrodi gan ddŵr.

“Mae’r mater yn derbyn sylw a rydym yn trafod efo’r contractwyr,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Bangor wedi i golwg360 gysylltu â nhw am y mater yr wythnos hon.