Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud ei bod yn disgwyl i Lywodraeth Prydain “gadw at ei gair” a neilltuo mwy o arian ar gyfer S4C.

Daw’r datganiad ar ôl i’r Canghellor Philip Hammond ddweud yn ei Ddatganiad Hydref heddiw y bydd £65 miliwn yn ychwanegol yn mynd i fod ar gael i’r Adran Ddiwylliant yn San Steffan.

Mae’r Gymdeithas wedi gofyn am sicrwydd y bydd mwy o arian ar gael i ddiogelu dyfodol S4C, trwy hynny.

Un o addewidion maniffesto’r Ceidwadwyr cyn yr Etholiad Cyffredinol y llynedd oedd y bydden nhw’n “diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C” yn ystod tymor pum mlynedd Senedd San Steffan.

Ac mae’r Gymdeithas yn gobeithio y bydd tolc o arian ar gael ar gyfer S4C yn sgil yr addewid gwreiddiol a datganiad diweddara’r Canghellor.

Llythyr 

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, dywed llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith, Carl Morris: “Mae’n hunig sianel deledu Gymraeg nid yn unig yn hollbwysig i’n hiaith, ond yn rhan bwysig o’n heconomi hefyd.

“Nodwn gyda diddordeb bod cynnydd yng nghyllideb adran ddiwylliant y Llywodraeth. Gofynnwn i chi wneud cyhoeddiad yn fuan sy’n cadarnhau y bydd S4C, fel un o gonglfeini diwylliannau Cymru, yn elwa o hyn drwy gynnydd yn eu grant.

“Mae plasty yn swydd Efrog wedi elwa o grant werth £7.6 miliwn yn natganiad yr hydref, mwy na grant blynyddol S4C o’r Llywodraeth.

“Rwy’n ffyddiog eich bod wedi sicrhau cynnydd tebyg ar gyfer yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd. Edrychwn ymlaen at eich clywed yn rhannu’r newyddion da.”