Mae’r Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi y bydd yn anelu at greu hanes trwy gynnal ‘Parti Pyjamas Mwya’r Byd’ y flwyddyn nesa’.

Mae rheolwyr wedi estyn gwadd i “unrhyw leoliad” neu gwmni yng Nghymru i gymryd rhan yn y digwyddiad a cheisio torri record y byd ar Fai 9, 2017.

Ar yr un pryd mae’r mudiad, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 45 yn 2017, wedi lansio cystadleuaeth i blant bach Cymru i ddylunio pyjamas i’r cymeriad Dewin. Y wobr i’r enillydd fydd cael gweld ei syniad yn cael ei droi’n bâr o byjamas i Dewin – a fersiwn llai o’r pyjamas i gadw.

Mae Ffatri Aykroyd & Sons o’r Bala, sydd wedi bod yn creu dillad nos ers y 50au, wedi cynnig creu’r pyjamas.