Bydd pobol sy’n byw yn Abertawe ymhlith y cynta’ drwy Brydain i fanteisio ar dechnoleg band llydan tra chyflym Openreach.

Mae Abertawe wedi’i ddewis fel un o’r ardaloedd peilot ar gyfer y dechnoleg G.fast a fydd â chyflymder lawrlwytho o hyd at 330Mbps – sydd 10 gwaith yn well na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

Erbyn diwedd 2020 mae Openreach yn gobeithio y bydd 10 miliwn o gartrefi ar draws gwledydd Prydain yn medru defnyddio G.fast.

‘Newyddion gwych’

“Mae’n newyddion gwych fod Abertawe wedi’i ddewis gan BT i fod yn un o’r lleoliadau cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael y genhedlaeth newydd o dechnoleg band llydan,” meddai Juile James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru.

“Mae gan fand llydan tra chyflym y potensial i ddarparu mwy o fuddiannau i Gymru felly mae’n dda gweld buddsoddiad ac arloesedd parhaus yn y diwydiant.”

Ychwanegydd Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, “bydd hyn yn ategu at ein cynlluniau i gyflwyno Ardal Ddinesig Ddigidol” fel rhan o’r Fargen Ddinesig.

Mae 17 ardal yn rhan o gynllun peilot Openreach wrth iddyn nhw anelu at ddarparu’r band llydan yma ar gyfer 140,000 o gartrefi a busnesau yn 2017.