Adeilad CFfi Cymru yn Llanelwedd (Llun: CFfI Cymru)
Mae mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru wedi cael cyfle i brynu llawr gwaelod yr adeilad maen nhw’n gweithredu ohoni yn Llanelwedd ar gost o £76,100.

Maen nhw’n gobeithio codi’r arian drwy gyfraniadau gan aelodau a ffrindiau’r mudiad wrth eu hannog i “brynu bric”, gyda’r briciau’n amrywio mewn prisiau o £25, £100, £250 neu £500.

Fe fyddan nhw’n lansio’r ymgyrch yn ystod y Ffair Aeaf yr wythnos nesaf, ac yn gobeithio cwblhau’r gwerthiant erbyn diwedd Chwefror 2017.

Mae CFfI Cymru wedi gweithredu o’r adeilad hwn ers yr 1990au, pan wnaethon nhw brynu cyfran ohono ar y cyd â Choleg Castell-nedd Port Talbot.

Codi’r arian…

Un sydd wrth wraidd y syniad yw David Morgan sy’n ffermio ym Mrynbuga ac yn gyn-lywydd y mudiad yn Sir Fynwy.

Esboniodd wrth golwg360 mai Coleg Castell-nedd Port Talbot sydd â’r brydles am yr adeilad ar hyn o bryd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, ond eu bod yn dymuno gwerthu eu rhan nhw.

“Yn amlwg, mae’n un o’r safleoedd gorau ar faes y sioe,” meddai David Morgan.

“Mae’r CFfI wedi cael y cynnig cyntaf i brynu’r brydles, ac mae’n gyfle arbennig,” meddai.

Er mai £76,100 fydd cost y brydles, mae David Morgan yn gobeithio codi cyfanswm o £150,000 er mwyn cyfrannu at gostau adnewyddu a gwelliannau.

“Os rydych chi’n meddwl am y peth, mae mwy na 5,000 o aelodau mewn tua 150 clwb ar draws Cymru, ac fe allai £25 gan bob aelod gyfrannu’n dda at y cyfanswm. Dydw i ddim yn disgwyl i bob aelod dalu hynny wrth gwrs, ond mae’n ffordd i roi pethau mewn persbectif.

“Rydyn ni hefyd yn gobeithio cael cefnogaeth gan gyn-aelodau’r mudiad sydd wedi gweld cyfraniad y CFfI i’w cenhedlaeth nhw.”

Roedd yn cydnabod fod yr amserlen i godi’r arian yn “dynn” ond dywedodd fod cael “targed yn bwysig.”

‘Sylfaen gadarn’

“Rydym wedi cael cyfle gwych i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol cenedlaethau o ffermwyr ifanc Cymru ond mae angen cymorth ariannol i wneud y freuddwyd hon o fod yn berchen ar yr adeilad cyfan i ddod yn realiti,” meddai Arwel Jones, Cadeirydd CFfI Cymru.

“Ar hyn o bryd mae CFfI Cymru dim ond yn berchen ar yr ardal i fyny’r grisiau a chawn dim ond defnyddio’r ardaloedd i lawr y grisiau yn ystod digwyddiadau fel y Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Gŵyl y Gwanwyn a’r Ffair Aeaf,” meddai wedyn.

Stori: Megan Lewis