Simon Thomas AC
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar Ganghellor Llywodraeth Prydain i gyflwyno ‘Mesur Tegwch Economaidd’ yn Natganiad yr Hydref yfory.
Yn ôl Simon Thomas, mae angen “ail-gydbwyso economi’r Deyrnas Unedig.”
Dywedodd fod “obsesiwn parhaol Llywodraeth y DU gyda gorboethi economi Llundain a’r De Ddwyrain yn golygu mai’r DU yw’r wladwriaeth fwyaf anghyfartal yn yr Undeb Ewropeaidd.”
‘Anghydbwysedd’
Ychwanegodd fod pwrs cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn wynebu “twll du o £100 biliwn” a bod peryg i hynny godi yn sgil ansicrwydd pleidlais Brexit.
“Unwaith eto, teuluoedd cyffredin fydd yn talu’r pris am gamgymeriadau elit San Steffan,” meddai’r Aelod Cynulliad.
Am hynny, mae e wedi galw ar y Canghellor i ddefnyddio Datganiad yr Hydref yfory i gyflwyno Mesur Tegwch Economaidd i “sicrhau fod buddsoddiad yn cael ei wasgaru’n fwy cyfartal ledled y DU gan fynd i’r afael a’r anghydbwysedd hwn.”