Matthew Boyd, Llun: Catrawd Frenhinol Gibraltar drwy'r Weinyddiaeh Amddiffyn
Mae disgwyl i’r achos yn erbyn dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o ladd milwr ar noson allan yn Aberhonddu glywed gan ragor o dystion heddiw.
Yn Llys y Goron Caerdydd, mae’r erlynydd Christopher Quinlan QC eisoes wedi galw ar filwyr, staff bar, parafeddygon, swyddogion heddlu a gwyddonwyr fforensig i roi tystiolaeth yn erbyn dau ddyn ifanc.
Cafwyd hyd i’r Preifat Matthew Boyd, 20, o Gatrawd Frenhinol Gibraltar, yn anymwybodol yng nghanol tref Aberhonddu ar 8 Mai eleni.
Mae Jake Vallely, 24 oed o Ben-Y-Bryn, wedi’i gyhuddo o lofruddio’r milwr a’i ffrind Aaeron Evans, 23, wedi’i gyhuddo o ddynladdiad. Mae’r ddau wedi pleidio’n ddieuog i’r cyhuddiadau.
Clywodd y llys bod Jake Vallely wedi brolio mai fo oedd y “dyn caletaf” yn y dref oriau cyn iddo daro Matthew Boyd.
Mae’r achos yn parhau.