Mae’r tywydd garw yn parhau i achosi trafferthion heddiw gyda threnau rhwng Caerdydd a gorsaf Paddington yn Llundain wedi’u canslo ac adroddiadau pellach am lifogydd mewn cartrefi ac ysgolion ar draws de Cymru.

Daw hyn wrth i storm Angus barhau i daro’r Deyrnas Unedig, ac yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai Cymru weld gwyntoedd o hyd at 50 milltir yr awr.

Mae rhybudd coch am lifogydd mewn grym ar gyfer de orllewin Cymru, a phedwar rhybudd oren arall am lifogydd ar draws y de.

Yn sir Benfro, mae coeden wedi disgyn ger Tre-groes ac mae dŵr ar wyneb ffordd yr A478 ger Nantyffin a’r B4329 rhwng Hwlffordd ac Aberteifi yn gwneud amodau’n anodd i deithwyr.

O’i chyfrif Twitter, mae pennaeth Gwasanaeth Tân ac Achub de Cymru, Jennie Griffiths, yn nodi bod criwiau yn ymateb i lifogydd yn Ysgol Richard Gwyn ym Mhenarth a hefyd i lifogydd yn Ysgol Uwchradd Llanisien.

Mae’n adrodd hefyd bod dau o bobol wedi’u dal mewn cerbyd yn Llanilltud Fawr a dau arall wedi’u dal mewn car yn ardal Lecwydd oherwydd y llifogydd.

Ac mae Heddlu’r De yn parhau i chwilio afon Ogwr am ddyn 69 oed, Russell Sherwood, aeth ar goll ddydd Sul.

Yn y gogledd mae ffordd yr A497 o Nefyn i Bwllheli wedi cau oherwydd bod coed wedi disgyn. Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio ar yrrwyr i osgoi’r ardal.