Oliver y gath fu farw Llun: RSPCA/PA
Mae’r RSPCA yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddwy gath gael eu gwenwyno gyda gwrthrewydd yng Nghaerffili.

Bu’n rhaid i’r milfeddyg ddifa un gath, tra bod y gath arall yn ddifrifol wael. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd os oedd y ddwy gath wedi’u gwenwyno’n fwriadol ond gwelwyd achosion eraill o wenwyno cathod yn yr ardal yn ddiweddar.

Dywedodd perchennog y ddwy gath, Lona Grey: “Rydym yn teimlo’n ofnadwy ein bod wedi colli ein cath Oliver yn y fath amgylchiadau, ac mae pethau’n ansicr gyda Oscar.

“Does gennym ni ddim syniad sut wnaethon’ nhw gael y gwrthrewydd.”

‘Profiad arswydus’

Mae Lona Grey yn rhybuddio perchnogion cathod yn yr ardal i fod yn wyliadwrus, meddai: “Ar ôl bod trwy’r profiad arswydus yma, yr ydym yn gobeithio fod y neges yn mynd allan i berchnogion cathod eraill i fod yn wyliadwrus, ac i unrhyw un sy’n defnyddio gwrthrewydd i sicrhau fod y cemegyn yn cael ei gadw yn briodol.”

Ychwanegodd: “Hoffwn i hefyd weld mwy o wybodaeth am beryglon gwrthrewyddion i anifeiliaid anwes a bod rhybuddion yn cael eu rhoi yn amlwg ar y label pecynnu yn y gobaith o osgoi digwyddiadau fel hyn.”

Dywedodd arolygydd ar ran yr RSPCA, Sophie Daniels, “Nid ydym yn gwybod os yw’r ddwy gath wedi cael eu gwenwyno yn fwriadol neu os oedd yn ddamwain drasig, ond o ystyried nifer yr achosion diweddar o wenwyno yn lleol, y mae’n allweddol fod perchnogion cathod yn wyliadwrus.”

Achos yn Y Rhyl

Yn y cyfamser mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddwy gath gael eu gwenwyno yn Y Rhyl wythnos diwethaf.

Fe ddigwyddodd y digwyddiad cyntaf brynhawn ddydd Sul 13 Tachwedd, pan wnaeth dynes ddarganfod ei chath wedi llewygu yn ei chartref yn Rhodfa Kinglsey, Y Rhyl. Cafodd y gath driniaeth gan y milfeddyg ac mae bellach wedi gwella.

Fe ddigwyddodd yr ail ddigwyddiad ychydig yn ddiweddarach mewn cyfeiriad cyfagos, ond bu i’r gath honno farw.

Meddai SCCH Sophie McLellan: “Mi wnaeth y milfeddyg gadarnhau bod y ddwy gath wedi cael eu gwenwyno. Rydym yn cynnal ymholiadau yn yr ardal ar hyn o bryd ac rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau hyn.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu Y Rhyl ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.