Awyren Airbus (Llun: Gwefan Airbus)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn buddsoddi £20 miliwn i sefydlu athrofa ymchwil gweithgynhyrchu  newydd i gynllunio adenydd  yng ngogledd Cymru.

Yn ôl Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates bydd yr athrofa yn helpu i sicrhau rôl fawr i Gymru yn natblygiad a dyluniad technoleg adenydd yn y dyfodol.

Bydd gan yr athrofa ffocws cryf ar sectorau gweithgynhyrchu uwch gan gynnwys y sectorau awyrofod, modurol, niwclear a bwyd.

Ei nod yw targedu ymchwil a datblygu ar y cyd, technegau gweithgynhyrchu uwch a phrosesau cynhyrchu a’r angen am hyfforddiant a sgiliau ar draws y diwydiant, meddai Ken Skates.

 

‘Gweddnewid cwmnïau gweithgynhyrchu’

Aeth Ken Skates i ffatri Airbus ym Mrychdyn ar gyfer cyfarfod bwrdd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, a dywedodd: “Bydd yr athrofa yn rhoi cefnogaeth fydd yn gweddnewid cwmnïau gweithgynhyrchu allweddol yn ogystal â chwmnïau cadwyn gyflenwi amlsector a’r economi Busnesau Bach a Chanolig ehangach.

“Mae’n canolbwyntio ar gynyddu cynhyrchiant, masnacheiddio, arloesi a datblygu sgiliau er mwyn sicrhau canolfan i ddiwydiant cystadleuol sy’n ffynnu ac a fydd yn gatalydd ar gyfer twf a swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi yng Nglannau Dyfrdwy, gogledd Cymru, y ‘Northern Powerhouse’ a thu hwnt.”

Mae Airbus wedi cadarnhau mai nhw fydd tenant angori cyntaf y ganolfan newydd. AMRC Sheffield fydd partner arweiniol y cam profi ymchwil a datblygu ar gyfer y dechnoleg adenydd newydd sy’n cael ei alw’n  “Adenydd y Dyfodol”. Mae’n cynnwys y prototeip a’r dyluniad, y beirianneg ac arddangoswr adenydd ym Mrychdyn.

‘Diogelu swyddi’

Bydd denu’r prosiect ymchwil a datblygu hwn i Gymru yn cefnogi gallu Brychdyn i sicrhau mai yno y bydd yr adenydd newydd hyn yn cael eu cynhyrchu yn y dyfodol gan helpu tuag at ddiogelu miloedd o swyddi hyd at 2030, meddai Ken Skates.

Bydd yr £20miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i’w neilltuo yn cefnogi buddsoddiad cychwynnol o £10miliwn gan bartneriaid y prosiect i ddatblygu’r Athrofa.

Mae’r athrofa, a oedd yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, wedi cael ei datblygu gan Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, AMRC Sheffield, Prifysgol Abertawe a Choleg Cambria ar y cyd â busnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr.

Bydd yr athrofa yn gweithredu fel un endid, wedi’i rhannu rhwng canolfan ymchwil a datblygu arfaethedig ym Mrychdyn a chyfleuster rhwydweithio, hyfforddiant, gwerthu a marchnata ger Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.

‘Ased sylweddol’

 

Dywedodd Ken Skates: “Yng ngoleuni’r ansicrwydd sy’n wynebu busnesau yn dilyn y bleidlais Brexit, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cefnogi eu harloesedd a’u gallu i gystadlu. Bydd y cyfleusterau o’r radd flaenaf a ddarperir yn yr Athrofa yn rhoi’r manteision hyn i fusnesau mawr a bach ac yn cynnig ased sylweddol o ran denu buddsoddiad newydd.

“Rwy’n falch iawn mai rhaglen ymchwil a datblygu Adenydd y Dyfodol Airbus fydd y prosiect cyntaf i ddefnyddio’r cyfleuster. Ni ellir pwysleisio ddigon bwysigrwydd sicrhau mai ym Mrychdyn y cynhyrchir y genhedlaeth nesaf o adenydd ac mae’r cadarnhad gan Airbus y byddan nhw’n cael eu datblygu yng Nghymru yn destament i’w gweithlu a’r sectorau gweithgynhyrchu uwch a deunyddiau yng Nghymru.”

‘Heb sylweddol’

Meddai Pennaeth y ffatri Airbus ym Mrychdyn, Paul McKinlay: “Mae hyn yn hwb sylweddol i Frychdyn a Chymru. Rydym yn enwog drwy’r byd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu adenydd a bydd yr athrofa newydd hon yn ein helpu i ddatblygu’r dechnoleg i allu gweithgynhyrchu adenydd y dyfodol a pharhau yn aelod pwysig o deulu Airbus.”