Fe fydd rali yn Abertawe ddydd Sadwrn yn gofyn “a oes gennym ni’r ewyllys” yng Nghymru i fod yn wlad annibynnol.

Tricia Roberts, un o drigolion y ddinas, sydd wedi trefnu’r digwyddiad lle bydd y cyn-Aelod Seneddol Llafur Gwynoro Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf, Liam Rees o Blaid Cymru Ifanc a’r Athro Daniel G. Williams o Brifysgol Abertawe yn annerch y dorf.

Bydd y rali yn Sgwâr y Castell am 12 o’r gloch, gydag adloniant cerddorol gan gerddorion gwerin lleol am 11.30yb.

Nod YesCymru yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu.

Yn ôl YesCymru, ymadawiad y Deyrnas Gyfunol o’r Undeb Ewropeaidd sy’n sbarduno’u hymgyrch.

‘Rheoli ein tynged ein hunain’

Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yn Abertawe, ond mae nifer o ddigwyddiadau eraill wedi cael eu trefnu yng Nghaerdydd a Chaernarfon ers sefydlu’r mudiad yn y brifddinas fis Chwefror.

Dywedodd Tricia Roberts mewn datganiad fod “gennym yr adnoddau” i fod yn annibynnol, ond mae’n cwestiynu “a oes gennym ni’r ewyllys”.

“Fel trefnydd y rali, mae hyrwyddo annibyniaeth i Gymru’n newydd i fi. Dw i’n teimlo gyda’r holl ansicrwydd a newidiadau yn y byd, fod angen i Gymru reoli ei thynged ei hun.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig nad ydyn ni’n colli ein diwylliant na’n hiaith, ein bod ni’n gynhwysol ac yn amrywiol ac mai ni, bobol Cymru, sydd yn y lle gorau i lywodraethu yng Nghymru.”

Diben y rali, meddai, yw “dechrau’r sgwrs” am annibyniaeth, gan “ddadlau a thrafod a gofyn cwestiynau ynghylch pa fath o Gymru ydyn ni ei heisiau ac mae angen i ni ei gwneud hi nawr!”