Y diweddar Joshua Hoole a'i ddyweddi (Llun; y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae ymchwiliad post mortem wedi dangos bod milwr a fu farw wrth gymryd rhan mewn prawf ffitrwydd ar ddiwrnod poetha’r flwyddyn ym Mannau Brycheiniog wedi marw o ganlyniad i achosion naturiol.

Bu farw Josh Hoole, 26 oed, yn Aberhonddu ar 19 Gorffennaf ar ôl syrthio yn ystod cwrs hyfforddi ar y Bannau Brycheiniog.

Mae rhai Aelodau Seneddol wedi cysylltu ei farwolaeth â’r peryglon o hyfforddi mewn gwers uchel, ac mae’n dilyn marwolaeth tri milwr arall yn ystod ymarfer hyfforddi’r SAS yn yr un ardal yn 2013.

Er hyn, mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod eu hymchwiliad post-mortem ar ben a bod y mater wedi’i drosglwyddo at y Crwner.

Marwolaethau’n gysylltiedig â hyfforddiant

Yn wreiddiol o Lockerbie yn yr Alban, roedd Josh Hoole yn filwr troed yng Nghatrawd y Reifflau.

Ar ddiwrnod ei farwolaeth, cofnodwyd tymheredd o 30C yn Aberhonddu.

Rai misoedd ynghynt, fe gyhoeddodd Pwyllgor Dethol Amddiffyn adroddiad yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddod yn gyfrifol am erlyniadau marwolaethau personél y lluoedd arfog.

Mae’r adroddiad yn dangos bod 135 o bersonél milwrol wedi marw wrth gymryd rhan mewn ymarferion hyfforddiant ers 2000.

Roedd 89 yn gysylltiedig â’r Fyddin, 24 o’r Llynges a’r Morlu frenhinol a 22 o’r Awyrlu Brenhinol.