gordon
Gordon Anglesea (Llun: PA)
Mae cyn-bennaeth Heddlu Gogledd Cymru yn apelio yn erbyn ei ddedfryd, wedi iddo gael ei garcharu am ymosod yn rhywio ar fechgyn yn eu harddegau yn yr 1980au.

Fe ddaeth cadarnhad gan y cwmni cyfreithwyr, Burton Copeland, eu bod wedi cyflwyno cais am apêl ddoe i Lys y Goron yr Wyddgrug, i’w drosglwyddo ymhellach i sylw’r Llys Apêl.

Fe gafodd y cyn-Uwch Arolygydd Gordon Anglesea, 79, ei ddedfrydu i 12 mlynedd o garchar yn gynharach y mis hwn, wedi i reithgor ei gael yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug.