Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru wedi cael yr hawl i ymyrryd yn apêl Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar arwyddo Erthygl 50 Brexit i’r Goruchaf Lys.

Bydd y Goruchaf Lys yn cwrdd ym mis Rhagfyr i drafod yr apêl, sydd wedi dod gerbron yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys i roi’r hawl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar delerau Brexit.

Bydd pob un o 11 o farnwyr Goruchaf Lys Prydain yn cwrdd – y tro cyntaf i hyn ddigwydd erioed.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw AC, fod y mater yn codi cwestiynau ar Sofraniaeth y Senedd ac ar drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar ddatganoli.

“Dim i’w wneud â gadael neu beidio”

“Rwy’n croesawu penderfyniad y Goruchaf Lys i ganiatáu Llywodraeth Cymru i gyfrannu yn yr apêl,” meddai.

“Dydy’r achos hwn yn ddim i’w wneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd neu beidio. Mae’r bobl wedi pleidleisio dros adael yr Undeb, felly bydd y Deyrnas Unedig yn gadael.

“Yr unig gwestiwn cyfreithiol dan sylw yw a oes modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol, ddefnyddio pwerau Uchelfreiniol i roi hysbysiad ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn y Goruchaf Lys, bydd Llywodraeth Cymru’n ceisio pwysleisio pwysigrwydd Sofraniaeth y Senedd a rheolaeth y gyfraith: egwyddorion craidd, sefydlog cyfraith gyfansoddiadol Prydain.”

Plaid – galw am bleidlais i’r Cynulliad

Mae Plaid Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad, gyda’i llefarydd ar faterion allanol, Steffan Lewis AC, yn dweud bod angen i lais Cymru gael ei glywed ar adeg mor bwysig.

Galwodd hefyd am bleidlais i’r Cynulliad Cenedlaethol ar sut fydd proses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn digwydd.

“Bydd pobol yng Nghymru yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan weithredoedd Llywodraeth y DU ac mae’n ddemocrataidd bod ein buddiannau fel cenedl yn cael eu diogelu wrth i’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau,” meddai.

“Yn ei chynrychiolaeth i’r Goruchaf Lys, mae angen i Lywodraeth Cymru bwysleisio y dylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael pleidlais ar dermau’r proses Brexit, ac y dylai Llywodraeth y DU barchu’r bleidlais honno, waeth be fydd y canlyniad.

“Ar 23 Mehefin, fe wnaeth bobol Cymru bleidleisio i adael ond wnaethon nhw ddim pleidleisio i ganoli pŵer yn San Steffan nac i roi mandad i’r Torïaid ddifetha ein heconomi drwy barhau â strategaeth ddiofal o dorri cysylltiadau economaidd.

“Rhaid i lais Cymru gael ei glywed wrth i benderfyniadau hanfodol gael eu gwneud dros ddyfodol ein gwlad.”