Ailosod llechi yn Aberystwyth wedi'r storm (Llun: Cynghorydd Ceredig Davies)
Mae llond llaw o bobol wedi bod wrthi heddiw yn clirio gweddillion y storm a dreiddiodd drwy Aberystwyth fore ddoe.

Fe gafodd gwyntoedd o hyd at 94 milltir yr awr eu cofnodi yno gyda’r Heddlu’n cau strydoedd fel Stryd y Farchnad, Heol y Wig a Ffordd y De ynghyd â rhiw Penglais am fod llechi a choed yn cwympo.

Yn ôl un o gynghorwyr y dref, Ceredig Davies, nid yw cost y difrod yn amlwg eto ond mae’n rhagweld y bydd gan nifer o fusnesau a pherchnogion tai’r dref gostau atgyweirio.

Mae yntau’n rhedeg siop ar y stryd fawr, Mona Liza, ac esboniodd bod ffenest wedi chwalu uwchben y siop ar yr un stryd ag ef a bod llechen wedi mynd drwy siop arall.

“Mae ambell i gar wedi cael difrod hefyd oherwydd y llechi rhydd, ac mae tŷ yn Laura Place wedi colli hanner ei simnai,” meddai’r Cynghorydd Ceredig Davies.

“Rydym ni’n ddiolchgar bod neb wedi cael dolur, ac fe wnaeth yr heddlu a’r frigâd dan ymateb yn gyflym wrth gau’r strydoedd.

“Byddwn i’n meddwl y bydd sawl galwad ffôn yn cael ei wneud i gwmnïoedd yswiriant nawr.”

Annisgwyl

Dywedodd y cynghorydd fod y storm wedi taro heb fawr o rybudd ddoe.

“Un funud roedd hi’n ddiwrnod digon diflas o fis Tachwedd, a’r funud nesaf roedd y gwynt yma’n mynd trwy’r holl dref ac yn chwythu popeth o’i flaen e’.

“Rydym ni’n gyfarwydd â gwynt a storm ar lan y môr, ond roedd hwn yn mynd trwy ganol y dref, a dydyn ni ddim yn gyfarwydd â hynny.”